Skip to main content
Greenmeadow Farm Impression

Mai Di-dor

Postiwyd ar 13/05/2025

Gwenynen yn casglu neithdar o flodyn, gyda dail yn y cefndir

Mae gwenyn, chwilod a gloÿnnod byw yn chwarae rhan allweddol yn y byd ffermio. Heb bryfed sy’n peillio, nid oes modd peillio!

Ymgyrch genedlaethol yw "Mai Di-dor”, a ddechreuwyd gan Plantlife. Elusen cadwraeth yw Plantlife sy’n annog pob un ohonom i adael i’r borfa a’r blodau dyfu, er mwyn rhoi bwyd a chysgod i bryfed fel gwenyn, gloÿnnod byw a gwyfynod sy’n peillio.

Yn ôl Plantlife, mae 97% o ddolydd a oedd unwaith yn gyfoeth o flodau, wedi diflannu er y 1930au, sy’n golygu bod y ffynonellau bwyd a’r cynefinoedd sydd eu hangen ar fywyd gwyllt, hefyd wedi diflannu.

Felly rhowch eich peiriant torri porfa i gadw i roi help llaw i fioamrywiaeth, a chefnogi pryfed sy’n peillio.

Dysgwch mwy am genhadaeth Plantlife yma.

Mwy o newyddion