Mae'n hawdd dod o hyd i ni, ein cyfeiriad yw Greenforge Way, Cwmbrân, Torfaen, NP44 5AJ
Ar drên a bws
Gall trafnidiaeth gyhoeddus i gyfnewidfa Cwmbrân ar y trên neu ar fws eich cysylltu â nifer o safleoedd bysiau lleol sydd o fewn pellter cerdded i Greenmeadow. Mae'r orsaf drenau llai na 2 filltir o'r fferm.
Ewch i wefan Trafnidiaeth Cymru i gael rhagor o wybodaeth.
Mae raciau beiciau ar gael i feicwyr.
Mewn car
Mae Greenmeadow ar gyrion canol tref Cwmbrân, ac mae’r rhwydwaith ffyrdd lleol yn cysylltu’n dda o’r M4.
Llai na 15 munud o Bont-y-pŵl
Llai nag 20 munud o Gasnewydd
Tua 20 munud o Frynbuga
Tua 35 munud o Gaerdydd
Parcio
Mae’r parcio yn Greenmeadow yn rhad ac am ddim ond yn gyfyngedig. Mae 200 o leoedd ar gael yn y prif faes parcio a’r maes parcio gorlif ar y cyd, ac mae arwyddion i’ch tywys. Mae mannau hygyrch i ddeiliaid Bathodyn Glas, ond y cyntaf i’r felin amdani.
Mae pwyntiau gwefru cerbydau trydan ar gael.
Nid yw Fferm Gymunedol Greenmeadow yn gyfrifol am gerbydau na’u cynnwys pan fyddwch yn parcio ym maes parcio’r fferm. Eich cyfrifoldeb chi ydyw.
