Skip to main content
Alt

Dewch i fwynhau diwrnod fferm-digedig!

Rydym yn atyniad bob tywydd ar gyrion Cwmbrân, ac yn gartref i dros 20 o wahanol rywogaethau o anifeiliaid sy’n cynnwys bridiau brodorol a phrin, ac mae gennym fannau Chwarae Antur awyr agored a dan do.

O gaeau bychain i byllau hwyaid a glynnoedd di-ri, mae digon o leoedd i'w crwydro yn yr awyr agored, a chyfleoedd i ddysgu am anifeiliaid, bwyd a ffermio.

Barod am antur?

Mae Fferm Gymunedol Greenmeadow ar agor o ddydd Mawrth i ddydd Sul ac mae digon hwyl i'r teulu oll - rydym hyd yn oed yn croesawu cŵn!

Prynwch docynnau dydd neu gardiau aelodaeth ac ychwanegu’r gweithgareddau o’ch dewis, fel reid ar gefn tractor a gweithgareddau tymhorol.

Tocynnau ac Aelodaeth

‘Haid’ cofio mai yma y clywsoch chi fe gyntaf!

Dilynwch ni - me...mewch amdani!