Skip to main content

Rydym yn lansio gweithgareddau newydd yn barod ar gyfer hanner tymor mis Mai (23 – 31 Mai), yn ogystal â’r hwyl arferol o amgylch y fferm. Edrychwch ar yr amserlen isod.

Chwilota mewn Pyllau

Dewch i roi tro ac i weld beth sydd yn y dŵr.

Mae’n ffordd wych o chwilota a dysgu tipyn bach yn fwy am fywyd gwyllt o gwmpas y fferm.

Gweithgaredd am ddim.

A frog poking his head out of the water

Gwneud Bomiau Hadau

Gwnewch eich peli bach eich hunan yn llawn o hadau, yn barod i’w plannu neu eu gwasgaru gartref.

Mae’n weithgaredd hwyliog ac ymarferol, ac yn ffordd wych o helpu blodau i dyfu a chefnogi bywyd gwyllt lleol.

Gweithgaredd am ddim.

Spring flowers in the grounds of the farm

Rhodfa’r Geifr

Bydd ein rhodfa geifr newydd ar agor mewn pryd ar gyfer hanner tymor.

Ar ôl poblogrwydd ein rhodfa cwningod, roedden ni am gynnig rhywbeth llawn gymaint o hwyl, ac mae’r geifr yn fwy na pharod i gwrdd â chi.

Dewch i’w gweld nhw’n agos ac yn eu lle newydd.

Gweithgaredd am ddim.

Sheep and lambs sitting on the wooden bridge in the sheep and goat enclosure

Gweithgareddau hanner tymor

Gweithgareddau hanner tymor
Time Activity Location
10:00 - 10:45 Cwrdd â’r Geifr Rhodfa’r Geifr
10:30 - 13:00 Cornel Cwtsh Pabell Fawr
11:00 - 11:45 Chwilota Pyllau Pwll y Pant
11:30 Arddangosfa Godro Llaethdy
12:00 Reid tractor ** Arhosfan Tractor
12:45 - 16:30 Bomiau Hadau Ffau’r Ffermwr
12:.45 - 16.30 Chwilota Pyllau Pwll y Pant
12:45 - 16:30 Cwrdd â’r Geifr Rhodfa’r Geifr
14.00 Reid tractor ** Arhosfan Tractor
15.00 - 16.00 Cornel Cwtsh Pabell Fawr
16.00  Reid tractor ** Tractor Stop
16:30 Amser te’r anifeiliaid Gofynnwch am leoliad heddiw
     
Trwy’r dydd Her Llwybr y Fferm (£1.00) Ffenestr y Fynedfa

 

** £2 y pen. Gallwch archebu tocynnau ar-lein neu yn yr Ysgubor Chwarae pan fyddwch yn cyrraedd

Ar gyfer wythnos hanner tymor, y cyngor yw bwcio. Gallwch neilltuo tocynnau trwy’r ddolen isod ac ychwanegu eich gweithgareddau ychwanegol gyda thâl.