Roedd Greenmeadow yn fferm weithiol am dros 250 o flynyddoedd. Adeiladwyd y ffermdy yn 1752, o gerrig Cymreig, gyda tho traddodiadol o lechi Cymreig. Mae'r maen dyddio uwchben y lle tân yn y caffi yn un gwreiddiol, ac mae enwau’r bobl gyntaf a oedd yn byw ar y fferm wedi’u harysgrifio arno - Edward ac Anne Jones. Mae'r lythyren J wedi'i hysgrifennu fel I yn y gair ‘Jones’, oherwydd cyn y 1800au ‘Iones’ oedd y sillafiad ar gyfer ‘Jones’.
Yn gynnar yn yr 1980au, penderfynodd grŵp o bobl leol brynu'r Fferm a'i throi'n Fferm Gymunedol, gan sicrhau y byddai'n parhau i fod yn lle gwyrdd. Ers hynny, mae'r ffermdy wedi cael nifer o berchnogion gwahanol. Ar un adeg roedd yn eiddo i Lofa Adit, sef glofa leol. Gan fod y lofa mor bwysig i'r ardal, y ffermdy oedd y tŷ cyntaf ac, am flynyddoedd lawer, yr unig dŷ yn yr ardal, â thrydan.
Mae cynllun y ffermdy wedi newid gydag amser hefyd. Yr ardal sydd nawr yn siop fferm oedd cegin a chegin-fach draddodiadol y ffermdy yn wreiddiol. Byddai tractorau’r fferm yn cael eu storio a’u trwsio yn y man lle mae’r gegin ar hyn o bryd, ac yma hefyd fyddai stablau’r ceffylau. Byddai’r fuches laeth fechan yn cael ei godro yn yr ardal sydd nawr yn cael ei defnyddio fel man golchi dwylo ar gyfer ein hymwelwyr.
Mae'r ffermdy wedi cadw llawer o'i nodweddion gwreiddiol, gan gynnwys y trawstiau yn y caffi. Mae sawl bachyn cig yn hongian o'r trawstiau ac, yn draddodiadol, dyma lle byddai cig wedi’i halltu’n cael ei hongian fel ffordd o gadw’r cig, cyn i oergelloedd a rhewgelloedd gael eu dyfeisio. Mae'r poptai bara, a ddarganfuwyd yn ddamweiniol yn gynnar yn y 1990au, yn ganolbwynt ar gyfer becws newydd y caffi.
Mae’r gwaith o drawsnewid Greenmeadow yn ehangu llawer o'r cyfleusterau hyn ac yn eu diogelu ar gyfer y dyfodol. Uchelgais Fferm Gymunedol Greenmeadow yw ei bod yn parhau i fod yn ased cymunedol allweddol ac annwyl, ond hefyd yn un o'r cyrchfannau gorau i ymwelwyr yn Ne Cymru.

