Skip to main content
Wood Fired Sourdough Pizza

Mae bwyty Bwrdd y ffermwr yn ystafell wydr newydd, estynedig sydd ynghlwm wrth y Ffermdy.

Mae’r bwydlenni, sydd â ffocws ar gynnyrch lleol, yn cynnig rhywbeth i bawb; o’r pizzas surdoes sy’n cael eu crefftio â llaw, i fyrgyrs blasus Cymreig, a chlasuron amser brecwast.

Fel bwyty sydd â thrwydded lawn i werthu alcohol, mae’n lle perffaith i gynnal achlysuron arbennig ac mae yma leoedd ychwanegol ar gyfer priodasau, partïon a digwyddiadau corfforaethol.

P'un a ydych chi am gael byrbryd bach cyflym, llond plât i’ch llenwi cyn crwydro’r fferm neu efallai eich bod yn ymuno â Bwrdd y Ffermwr am bryd o fwyd arbennig, mae ein bwydlen yn cynnig y clasuron, ciniawau ysgafnach a pizzas surdoes sy’n cael eu coginio dros dân.

Nid oes angen trefnu ymlaen llaw ac mae croeso i gŵn sy’n ymddwyn yn dda. Bydd cyfleodd i archebu ymlaen llaw cyn bo hir.

Prif fwydlen

O’r clasuron blasus i giniawau ysgafn sy’n defnyddio cynhwysion lleol gan ein cyflenwyr gwych

Bwydlen y plant

Bydd rhywbeth at ddant hyd yn oed y mwyaf ffyslyd, ar ein bwydlen fendigedig i blant

Diodydd

Dewis gwych o ddiodydd alcoholig, diodydd meddal a choffi rhagorol

Bwydlen brecwast

Llond plât amdani cyn diwrnod yn crwydro’r fferm. Gweler ein bwydlen brecwast bendigedig

Cyflenwyr

Douglas Willis

Douglas Wills, busnes teuluol, bach, ar ein carreg drws, sy’n cyflenwi’r holl gigoedd o ffynonellau moesegol, i ni yma, ar Fferm Greenmeadow. O’n byrgers boch ych a brisged i selsig Cymreig traddodiadol a chiniawau dydd Sul, mae pob darn o gig yn adlewyrchu cigyddiaeth ar ei orau, a ffermio cynaliadwy.

Extract Coffee Roasters

Mae ein coffi hyfryd yn cael ei rostio gan y tîm gwych yn Extract Coffee Roasters ym Mryste. Daw eu ffa coffi o ffynonellau moesegol, ac maent yn defnyddio dulliau rhostio medrus i’w crefftio i greu blas trawiadol, nodedig. Gallwch ddisgwyl ychydig o flas siocled, caramel, a sitrws – sy’n cyd-weddu’n berffaith â'n lleoliad godidog yma yng nghefn gwlad. Rydym wrth ein bodd â'u hymrwymiad i gynaliadwyedd a'u dull ymarferol o gaffael a rhostio.

Waste Knot

Bob wythnos, rydym yn derbyn bocs dirgel o gynnyrch ffres, tymhorol gan Waste Knot, menter gymdeithasol sy'n mynd i'r afael â gwastraff bwyd trwy gysylltu ffermydd â cheginau fel ein cegin ni. Mae'r cynhwysion hyn yn ysbrydoli ein llysiau rhost, saladau a’n pizzas, prydau sy'n newid gyda'r tymhorau ac yn dathlu pa mor hardd yw amherffeithrwydd. Mae'n fwyd sydd â phwrpas, ac rydym yn falch o fod yn rhan o'u cenhadaeth.

Ellis Eggs

Ni fyddai ein brecwast a'n danteithion cartref yr un peth heb Ellis Eggs. Daw’r wyau o ieir hapus ar ffermydd Cymreig. Mae gan yr wyau flas cyfoethog a lliw euraidd. P'un a ydynt wedi'u potsio, eu sgramblo, neu eu hychwanegu i gymysgedd cacennau, maen nhw'n brif cynhwysion yma, yn ein cegin.