O fridiau brodorol a phrin i ymlusgiaid hynafol, mae gennym ddigon o anifeiliaid yn aros i’ch croesawu i Fferm Gymunedol Greenmeadow. Dywedwch helô wrthynt yn Ysgubor yr Anifeiliaid, mynnwch gyfle i’w gweld yn agos yn y Cornel Cwtshys, a'u gwylio’n crwydro’r caeau.

Defaid Torddu
Mae Defaid Torddu yn frodorol i’n hucheldiroedd yma yng Nghymru. Mae ganddyn nhw wynebau gwyn â marciau du trawiadol – mae eu henwau hyd yn oed yn golygu ‘bol du’ yn Gymraeg!

Defaid Ryeland lliw
Defaid iseldir, o Loegr yn wreiddiol, yw’r Ryeland lliw, sy’n frîd prin. Mae eu gwlân yn feddal ac o liw arbennig, felly mae’n ddelfrydol ar gyfer nyddu â llaw.

Defaid Jacob
Mae defaid Jacob yn frîd sy’n frodorol i'r Deyrnas Unedig a'r Dwyrain Canol. Maent yn hawdd i'w cadw ac yn wydn. Mae ganddynt gnu smotiog a rhwng 2 a 6 chorn!

Gwartheg yr Ucheldir
Mae gwartheg yr ucheldir, sy’n dod o Ucheldiroedd yr Alban, yn adnabyddus am eu cyrn hir eiconig a’u cotiau mawr blewog. Maen nhw’n gartrefol iawn ar dir garw ac mae’r tywydd oer yma yng Nghymru yn ei siwtio i’r dim.

Gwartheg Dexter
Gwartheg Dexter yw'r brîd gwartheg lleiaf yn y Deyrnas Unedig. Maent yn dod o Iwerddon. Yn draddodiadol, maent yn cael eu magu am eu cig eidion. Maent yn frîd cyfeillgar sy’n hawdd ei reoli.

Buchod Friesian Prydeinig
Daw buchod Friesian Prydeinig o’r Deyrnas Unedig ers dechrau’r 20fed ganrif. Maent yn adnabyddus am gynhyrchu llawer o laeth a chig eidion, felly maent yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr iawn ar ffermydd.

Moch Cymreig
Cafodd moch Cymreig eu magu am y tro cyntaf yn y 1870au. Maen nhw'n foch gwyn, o faint canolig i fawr. Mae ganddynt gyrff hir ac maent yn famau ardderchog.

Moch Tamworth
O Loegr y daw moch Tamworth ers y 19eg ganrif. Mae ganddynt got o liw eurgoch nodedig ac maent yn adnabyddus am fod yn gryf ac yn fforwyr da. Bronwyn yw enw un o’n merched hynaf.

Moch Berkshire
Mae moch Berkshire yn frîd prin o dras Seisnig, sy’n enwog am ansawdd eu cig. Maen nhw'n fforwyr da yn yr awyr agored ac mae ganddyn nhw gotiau du gyda marciau gwyn.

Moch Kune Kune
Daw moch Kune Kune yn wreiddiol o Seland Newydd cyn y 1800au. Maen nhw’n foch bach crwn, gyda chotiau blewog, byr, amryliw. Maen nhw'n gyfeillgar ac yn gymdeithasol iawn eu natur.

Geifr Pigmi
Mae geifr Pigmi yn frîd bach hynafol o Orllewin Affrica. Maen nhw'n chwareus a chymdeithasol eu natur.

Geifr Eingl-Niwbaidd
O Loegr y daw geifr Eingl-Niwbaidd, yn y 19eg ganrif. Gyda’u fframiau mawr, maen nhw’n eifr godro sy’n cynhyrchu llaeth sy’n uchel o ran braster menyn. Mae ganddynt glustiau hir ac maen nhw’n swnllyd a chyfeillgar.

Asynnod
Mae asynnod yn frîd hynafol sy’n dod yn wreiddiol o ardal Môr y Canoldir/Affrica. Maen nhw’n gryf a sefydlog ar eu traed ac maent yn dal i gael eu defnyddio i gario llwythi a gwarchod da byw. Prince ac Angel yw enwau’r asynnod yma yn Greenmeadow.

Cobiau
Mae cobiau yn frîd hanesyddol o’r Deyrnas Unedig. Maen nhw’n gryf ac mae ganddynt goesau cadarn a natur ddigyffro a sefydlog.

Merlod Shetland
Daw merlod Shetland o’r cyfnod cynhanes. Mae ganddyn nhw gotiau trwchus, carnau cryf a chyrff bach, ond pwerus. Mae Wilhemina, Sherbert, Wilf a Dylan yn aros i'ch croesawu i Greenmeadow!

Tsinsila
Mae Tsinsila yn famal hynafol sy'n dod o Dde America. Maen nhw'n greaduriaid y nos, sydd â ffwr trwchus sy'n galw am faddonau llwch.

Llygod ffyrnig
Credir iddynt ddod yn wreiddiol o Asia yn y 1800au a’u dofi yn Ewrop. Maen nhw'n gnofilod y nos, sy’n ddeallus iawn, a gellir eu dysgu.

Cwningod mawr
Daeth cwningod mawr o Ewrop yn y 1700au. Gwyddys eu bod yn greaduriaid cyfnosol, sy'n golygu eu bod fwyaf bywiog wrth iddi wawrio a nosi.

Cwningod domestig
Mae cwningod domestig o faint canolig, ac mae ganddynt gotiau llyfn. Daethant o Ewrop yn ystod yr Oesoedd Canol. Maen nhw’n ddigyffro eu natur ac yn hoffi cymdeithasu pan fyddant yn gyfarwydd â chwmni.

Moch cwta
Mae moch cwta yn gnofilod a ddaeth o Dde America tua 5000 CC. Maen nhw'n fach, heb gynffon ac mae ganddynt goesau byrion.

Ffuredau
Mae ffuredau yn famaliaid bach a ddaeth o Ewrop tua 500 CC. Maen nhw'n ddeallus, yn chwareus, yn chwilfrydig ac yn ffynnu ar gwmnïaeth.

Tyrcwn
Mae tyrcwn yn adar hynafol o Fesoamerica. Cawsant eu dofi gan bobloedd frodorol. Maen nhw'n fwy nag ieir, prin y maen nhw’n gallu hedfan, ac maen nhw’n cael eu magu yn bennaf am eu cig.

Crwbanod llewpard
Mae crwbanod llewpard yn ymlusgiaid hynafol o Ddwyrain a De Affrica. Mae ganddyn nhw gregyn mawr, cromennog gyda smotiau tebyg i lewpard.