Mae digon o leoedd i chwarae ar Fferm Gymunedol Greenmeadow. Mae Lle Chwarae Antur dan do sy’n addas i bob tywydd, a llawer o weithgareddau awyr agored. Mae digon o leoedd yn y Lle Chwarae Antur awyr agored i ddringo, cropian a llithro, tra bod y Lle Chwarae Antur Dan Do yn llawn offer caled, wedi eu hysbrydoli gan y fferm. Mae’r cyfan oll wedi ei gynnwys ym mhris eich tocyn.
Chwarae Antur Dan Do
Daw holl anturiaethau’r buarth yn fyw yn y lle Chwarae Antur Dan Do yn Greenmeadow.
Mae'r lle Chwarae Antur Dan Do yn llawn offer chwarae a gemau ymarferol sydd wedi eu hysbrydoli gan y fferm. Gall plant ddringo, cropian a neidio drwy dwneli, tractorau a cheffylau sbonc.
Wrth i rieni fwynhau seibiant yn y caffi cyfagos, gallant hefyd gadw llygaid barcud ar eu plant.

Lle Chwarae Antur
Peidiwch â cholli allan ar y Lle Chwarae Antur ar eich ymweliad â Fferm Gymunedol Greenmeadow. Mae'r maes chwarae awyr agored ar ochr uchaf y fferm, yn cynnig lleoedd i lithro, dringo a chuddio.

Y Glyn
Ewch i lawr am Y Glyn a chrwydro’r coedwigoedd naturiol, i lawr i'r pwll. Mae mwy o leoedd i ddringo a chamu ymhlith y bywyd gwyllt, a gallwch alw heibio’r alpacas tra byddwch chi yno!






