Skip to main content

Datganiad Cydnabod Ymwelwyr

Drwy drefnu ymweliad â Fferm Gymunedol Greenmeadow, rydych yn cydnabod ac yn derbyn bod ymweld â fferm weithiol yn cynnwys rhai risgiau cynhenid, gan gynnwys y posibilrwydd o ddod i gyswllt â heintiau milheintiol (clefydau a all drosglwyddo o anifeiliaid i bobl).

Er mwyn helpu i gadw pawb yn ddiogel, rhaid i ymwelwyr:

  • Olchi eu dwylo'n drylwyr gyda sebon a dŵr sy’n llifo ar ôl cyffwrdd anifeiliaid neu eu bwydo, a chyn bwyta neu yfed.
  • Defnyddio’r gorsafoedd golchi dwylo sydd ar gael ledled y fferm. Maen nhw wedi eu marcio’n glir ac maen nhw’n cynnwys dŵr cynnes sy’n llifo, a sebon hylif.
  • Deall na ddylech ddefnyddio cadachau glanhau a diheintydd i olchi dwylo yn hytrach na golchi’ch dwylo’n gywir.
  • Dilyn yr holl arwyddion a gwrando ar gyfarwyddiadau’r staff o ran cyffwrdd yr anifeiliaid a hylendid.
  • Osgoi bwyta neu yfed yn y mannau lle gellir cyffwrdd ag anifeiliaid.
  • Goruchwylio plant yn ofalus, yn enwedig pan fyddant yn dod i gyswllt ag anifeiliaid a phan fyddant yn golchi eu dwylo.

Mynediad Cyffredinol

Rhaid i bob ymwelydd ddilyn arwyddion a gwrando ar gyfarwyddiadau’r staff bob amser er eu diogelwch eu hunain a lles eraill.

Rhaid i blant dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol.

Mae Fferm Gymunedol Greenmeadow yn cadw'r hawl i wrthod mynediad i ymwelwyr neu ofyn iddynt adael os ydynt yn ystyried bod eu hymddygiad yn amhriodol.

Mae Fferm Gymunedol Greenmeadow yn fferm weithiol gyda thir amrywiol. Rydym yn argymell eich bod yn gwisgo esgidiau a dillad sy'n addas i'r tywydd.

Mynediad i gŵn

Mae croeso i gŵn ar y safle ond rhaid iddynt fod ar dennyn drwy’r amser a rhaid eu bod wedi cael eu brechiadau diweddaraf.

Rhaid i berchnogion lanhau ar ôl eu cŵn a rhoi’r bagiau baw cŵn yn y biniau pwrpasol ar gyfer baw cŵn neu fynd â nhw oddi ar y safle.

Rydym yn cadw'r hawl i ofyn i unrhyw berchennog a'i gi adael os y safle os yw'r anifail yn ymddwyn mewn modd aflonyddgar neu beryglus.

Tocynnau ac E-docynnau

Mae tocynnau yn ddilys i ganiatáu un mynediad yn unig ac ni ellir eu had-dalu.

Rhaid defnyddio tocynnau ar y dyddiad a ddewiswyd ar yr adeg archebu.

Bydd e-docynnau yn cael eu hanfon i'r cyfeiriad e-bost a roddwyd wrth brynu. Os na fyddwch yn eu derbyn o fewn 24 awr, cysylltwch â ni.

Mae mynediad am ddim i blant dan 2 oed.

Nid oes modd trosglwyddo tocynnau a ni ellir eu hailwerthu na’u cyfuno ag unrhyw gynigion eraill oni nodir yn wahanol.

Os bydd tywydd garw neu unrhyw darfu ar allu’r fferm i weithredu, mae Fferm Gymunedol Greenmeadow yn cadw’r hawl i aildrefnu eich ymweliad. Mae ad-daliadau yn cael eu hystyried fesul achos.

Canslo

I ganslo tocyn, rhaid i chi roi gwybod i ni o leiaf 7 diwrnod cyn eich ymweliad.

Rhaid canslo drwy e-bost neu dros y ffôn gan ddefnyddio'r manylion cyswllt ar ein gwefan.

Os bydd llai na 7 diwrnod o rybudd pan fyddwch yn canslo, ni chewch ad-daliad na chyfle i aildrefnu.

Efallai y bydd gan ddigwyddiadau arbennig delerau canslo ar wahân. Fe gewch wybod y telerau pan fyddwch yn archebu.

Cardiau Aelodaeth a Thocynnau Blynyddol

Bydd cerdyn aelodaeth yn ddilys am 12 mis o’r dyddiad y caiff ei brynu.

Ni ellir trosglwyddo aelodaeth ac ni ellir ei ad-dalu.

Rhaid i aelodau ddangos eu cerdyn aelodaeth dilys wrth gyrraedd.

Nid yw cerdyn aelodaeth yn cynnwys mynediad i ddigwyddiadau arbennig â thocynnau oni y nodir hynny.

Os bydd cerdyn yn mynd ar goll, gellir cael cerdyn newydd am ffi o £2.50.

Bydd cynnig arbennig ar gael pan fydd aelodaeth yn cael ei lansio am y tro cyntaf. Mae Fferm Gymunedol Greenmeadow yn cadw'r hawl i ddiwygio neu dynnu'r cynnig hwn yn ôl ar unrhyw adeg.

Talebau Rhodd

Mae talebau rhodd yn ddilys am 12 mis o’r dyddiad prynu.

Rhaid defnyddio’r talebau cyn y dyddiad dod i ben; ni ellir ad-dalu talebau sydd heb eu defnyddio.

Ni ellir cyfnewid talebau am arian parod na’u defnyddio ar gyfer gostyngiadau neu gynigion eraill.

Gellir defnyddio talebau ar y safle neu ar-lein oni nodir yn wahanol.

Ymweliadau gan Grwpiau ac Ysgolion

I archebu fel grŵp, mae angen o leiaf 20 ymwelydd sy’n talu.

Rhaid trefnu ymweliadau ysgol ymlaen llaw ac maent yn gymwys i gael prisiau arbennig yn ystod yr wythnos, yn ystod y tymor.

Rhaid talu mewn un trafodiad wrth gyrraedd, oni y cytunir yn ysgrifenedig fel arall.

Rydym yn argymell bod un oedolyn yn goruchwylio bob 5 o blant ar ymweliadau gan ysgolion a grwpiau.

Rhaid canslo neu wneud newidiadau o leiaf 7 diwrnod ymlaen llaw.

Profiadau a Lles Anifeiliaid

Rhaid trefnu profiadau anifeiliaid ymlaen llaw ac maent yn dibynnu ar argaeledd.

Mae rhai profiadau yn gofyn am isafswm oedran; bydd manylion ar gael pan fyddwch yn archebu.

Rhaid i bawb sy’n cymryd rhan ddilyn canllawiau staff a gweithdrefnau hylendid.

Rhaid i blant dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol yn ystod y profiadau.

Efallai y bydd angen i ni aildrefnu neu ganslo profiadau oherwydd anghenion lles yr anifeiliaid neu os bydd unrhyw darfu ar ein gallu i weithredu.

Tynnu Lluniau a Ffilmio

Wrth brynu tocyn mynediad neu ddod i mewn i Fferm Gymunedol Greenmeadow, rydych chi'n caniatáu i'r posibilrwydd o gael eich llun wedi’i dynnu neu eich ffilmio tra eich bod ar y safle.

Gall y lluniau a'r recordiadau hyn gael eu defnyddio at ddibenion marchnata a hyrwyddo, ac ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol heb daliad na chaniatâd pellach.

Os nad ydych yn dymuno cael eich cynnwys mewn unrhyw luniau neu ddarn o ffilm, rhowch wybod i aelod o staff ar ôl cyrraedd fel y gellir cymryd camau rhesymol i osgoi tynnu eich llun.

Rydym yn annog ymwelwyr i dynnu eu lluniau eu hunain at ddefnydd personol, ond mae angen caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan y tîm rheoli os ydych yn tynnu lluniau neu’n ffilmio am resymau masnachol.

Dychwelyd Nwyddau a Threfnu Ad-daliadau

Gall eitemau manwerthu heb eu defnyddio, yn eu deunydd pacio gwreiddiol, gael eu dychwelyd o fewn 30 diwrnod. Cyfrifoldeb y cwsmer yw’r costau postio.

Ni ellir ad-dalu tocynnau a phrofiadau oni nodir yn wahanol ar yr adeg prynu.

Diogelu Data

Mae Fferm Gymunedol Greenmeadow yn cydymffurfio â'r Ddeddf Diogelu Data ac yn gweithio yn unol â pholisi preifatrwydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.

Mae data personol yn cael ei storio'n ddiogel a'i ddefnyddio at ddibenion gweithredol, gweinyddol a marchnata yn unig, lle rhoddir caniatâd.

Mae teledu cylch cyfyng ar waith ar draws y safle er diogelwch ein hymwelwyr, ein staff a’r anifeiliaid.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau bod y fferm mor hygyrch â phosibl i bob ymwelydd. Mae gan rai ardaloedd arwynebau anwastad neu nid ydynt yn gwbl hygyrch oherwydd natur y safle.

I gael rhagor o wybodaeth neu i ofyn am gymorth, cysylltwch â'n tîm cyn eich ymweliad.

Eiddo Coll

Mae eiddo coll yn cael ei gadw yn y dderbynfa am hyd at 14 diwrnod. I holi am eitem coll, cysylltwch â ni dros y ffôn neu drwy e-bost gan roi disgrifiad o’r eitem a dyddiad eich ymweliad.

Newidiadau

Rydym yn cadw'r hawl i ddiwygio'r Telerau ac Amodau, y prisiau, a chynigion hyrwyddo ar unrhyw adeg, heb rybudd ymlaen llaw. Bydd y fersiwn ddiweddaraf ar gael ar ein gwefan.