Skip to main content

Tocynnau ac Aelodaeth

Gallwch brynu tocynnau ar y diwrnod yn Fferm Gymunedol Greenmeadow ond rydym yn argymell archebu ymlaen llaw pryd bynnag y bo modd ar gyfer ymweliadau dydd a deiliaid aelodaeth er mwyn osgoi cael eich siomi. Mae aelodaeth a thalebau rhodd yn opsiwn gwych i ffrindiau a theulu, gweler isod am fanylion pellach.

Tocynnau Dydd

Tocynnau Dydd
Math o docyn Pris
Oedolion O £10.50
Plant (3-12) O £7.00
Plant o dan 3 oed Am ddim
Gofalwyr Am ddim – yn ôl yr angen fesul person
(Gwelwch y CCau am fanylion)

 

Mae eich tocyn dydd yn cynnwys

  • Ysgubor Chwarae Dan Do
  • Chwarae Antur Awyr Agored
  • Chwarae coedwig awyr agored yn y Pant
  • Cwrdd â’ch hoff anifeiliaid yn yr Ysgubor Anifeiliaid
  • Cerdded ymysg yr anifeiliaid gan gynnwys geifr, ieir a chwningod mawr
  • Amserlen ddyddiol o weithgareddau am ddim, gan gynnwys arddangosfeydd godro tymhorol, Cornel Cwtsh ac amser te anifeiliaid
  • Digon o lwybrau ar gyfer cerdded
  • Mynediad am ddim i gŵn da! 

Aelodaeth Flynyddol

Aelodaeth Flynyddol Leol

 

Local Annual Membership
Math o docyn Pris
Oedolyn yn cynnwys un plentyn (3 – 12 oed) £24.00
(Ar gael i’r rheiny sy’n byw yng nghodau post: NP4, NP44, NP11 a NP18)

  

Aelodaeth Flynyddol Gyffredinol

 

General Annual Membership
Math o docyn Pris
Oedolyn yn cynnwys un plentyn (3 – 12 oed) £32.00

   

Mae aelodaeth flynyddol yn cynnwys

  • Popeth sydd yn y tocyn dydd
  • Dim cyfyngiad ar nifer yr ymweliadau
  • Mynediad cynnar at ddigwyddiadau tymhorol fel y Nadolig
  • Digwyddiadau i aelodau’n unig trwy gydol y flwyddyn

 

Mae aelodaeth yn mynd am 12 mis o ddyddiad prynu. Bydd prisiau yn destun cynnydd blynyddol.

Cŵn

Mae croeso i gŵn sy'n ymddwyn yn dda yn Greenmeadow, mewn gwirionedd dyma'r lle perffaith i fynd â'ch ci am dro.

Gan fod hon yn fferm gydag anifeiliaid, mae yna nifer o leoedd lle nad yw cŵn yn cael mynd, gan gynnwys Anifeiliaid Egsotig a’r Ddeorfa, yr Ysgubor Chwarae, yr Ysgubor Wair a’r Llofft Wair.

Mae croeso i gŵn sy'n ymddwyn yn dda ym mwyty Bwrdd y Ffermwr.