Yn ogystal â bod yn gyrchfan ymwelwyr, mae Fferm Gymunedol Greenmeadow yn fferm weithiol, gyda llu o straeon i'w hadrodd am ffermio a bwyd, anifeiliaid, bywyd gwyllt, peillio a chynaliadwyedd.
Gall Fferm Gymunedol Greenmeadow ddod ag addysg yn fyw, drwy gynnig digon o wybodaeth, sgiliau a phrofiadau dysgu dilys. Mae treulio amser gydag anifeiliaid ac ym myd natur, yn gallu helpu i ddatblygu hyder, datgloi diddordebau newydd a meithrin creadigrwydd a mentergarwch.
Mae gennym nifer o wahanol ffyrdd y gall plant oedran cynradd gymryd rhan ar y fferm, gyda theithiau fferm safonol a gweithdai ymarferol ychwanegol i blant trwy gydol y flwyddyn.
Beth allwch chi ei ddisgwyl
Mae ymweliadau addysgol yn cael eu cynnal o ddydd Mawrth i ddydd Gwener, gyda'r rhan fwyaf o ysgolion yn dewis cyrraedd am 10am a gadael am 2pm.
- Darperir amserlen diwrnod cyn i chi ymweld
- Bydd aelod o staff yn eich cwrdd a chyfarch pan fyddwch yn cyrraedd
- Lle pwrpasol i adael eich bagiau a chael cinio
- Reid ar y tractor a threlar
- Cyfle i fynd ati a ‘gwylio’r godro’
- Amser i fwynhau’r fferm
Gallwn drefnu gweithgareddau ychwanegol o’ch dewis i’w hychwanegu at eich ymweliad i ategu at y pynciau y gallech fod yn eu dysgu yn yr ysgol.
Prisiau
- £5 y disgybl
- Mynediad am ddim i staff addysgu a Chynorthwywyr 1:1
- £5 i rieni sy’n cynorthwyo
Gweithdai ychwanegol
Mae gweithdai ychwanegol yn newid yn dymhorol, ac maent yn canolbwyntio ar nifer o weithgareddau sy'n gysylltiedig ag anifeiliaid a natur, i gyfoethogi sgiliau, profiadau a dealltwriaeth dysgwyr.
£35 y sesiwn, hyd at uchafswm o 35 disgybl y sesiwn.
Siaradwch â'n Tîm Addysg am ragor o wybodaeth. Anfonwch e-bost atom yn gmcfeducation@torfaen.gov.uk neu rhowch alwad i ni ar 01633 647662.
Beth am gyfoethogi’r meysydd dysgu a phrofiad a ganlyn yn y Cwricwlwm i Gymru drwy gymryd rhan mewn gweithdai ymarferol a diddorol, wedi eu teilwra i’ch thema?
Pawennau, Crafangau a Wisgers (a chnu!) (O fis Chwefror i fis Tachwedd)
Crafangau miniog, ffwr meddal a wisgers werth eu gweld! Beth yw eich hoff anifail? Mae gennym amrywiaeth eang o anifeiliaid, mawr a bach i ddewis ohonynt, yn amrywio o gwningod blewog i ffrindiau pluog a chrwbanod a madfallod mwy egsotig. Does dim lle gwell na’r fferm i ddarganfod pa un yw ffefryn eich dosbarth.
Os ydych chi'n ymweld â ni ar ddiwedd tymor y gwanwyn, dysgwch pam mae'n rhaid i ni gneifio ein defaid wrth iddynt golli eu cotiau gaeaf a darganfod pa mor bwysig yw hi i gynhyrchu gwlân mewn ffordd gynaliadwy.
Gwyddoniaeth a Thechnoleg – addasiadau Dyniaethau – traddodiadau cefn gwlad

Canhwyllo a Chyffwrdd (O fis Chwefror i fis Mai)
Mae ein gweithdy Canhwyllo a Chyffwrdd yn cynnig cyfle i’ch dosbarth gael y profiad unigryw o weld cyw wrth iddo ddatblygu y tu mewn i’w wy, a chwrdd wyneb yn wyneb â chywion sydd newydd ddeor.
Gwyddoniaeth a Thechnoleg – cylchoedd bywyd

Helfa Bwystfilod Bach a Chwilota mewn pyllau (O fis Mawrth i Fis Hydref)
Pam fod gan fuchod coch cwta smotiau, sut mae mwydod yn symud, a faint o droed sydd gan falwod o ddifri? Darganfyddwch gyfrinachau’r rhyfeddodau bach ym myd natur ar helfa bwystfilod bach, a datgelwch gyfrinachau bywyd pryfed. Yna plymiwch i fyd darganfod drwy chwilota mewn pyllau, a dod o hyd i’r creaduriaid tanddwr dirgel sy'n gorwedd dan yr wyneb.
Gwyddoniaeth a Thechnoleg – cynefinoedd

Gwylio’r Godro (O fis Chwefror i fis Tachwedd)
Ymunwch â ni i wylio’r godro yn ddyddiol, sydd wedi ei gynnwys yn y pris mynediad. Bydd cyfle i gwrdd â’n buchod Friesian. Dysgwch sut mae llaeth yn cael ei gynhyrchu a'r nifer o bethau blasus y gellir eu creu o laeth.
Dyniaethau – tarddiad bwyd

Gwneud Menyn (O fis Chwefror i fis Tachwedd)
Torchwch eich llewys a darganfod hud yn y llaethdy, yn ein gweithgaredd ymarferol i wneud menyn. Ewch ati i ysgwyd, corddi a thrawsnewid hufen ffres i greu menyn euraidd, blasus ac fe gewch hyd yn oed flasu eich campwaith.
Iechyd a Llesiant – bwyta'n iach a sgiliau bywyd

Coetiroedd a Chynefinoedd (O fis Mawrth i fis Hydref)
P'un a yw'n wanwyn, haf, neu hydref, mae gwylio'r tymhorau yn datblygu yn ein hardal coetir rhywbeth hynod o hudolus. Yn ystod eich ymweliad, gallwch fwynhau amrywiaeth o weithgareddau fel adeiladu lloches, cynnau tân, a thostio malws melys o amgylch y tân – perffaith i sbarduno chwilfrydedd, gwaith tîm, ac antur awyr agored.
Iechyd a Llesiant – rheoli risg, gwytnwch a hyder

Casglu Wyau (O fis Mawrth i fis Hydref)
Camwch i ‘sgidiau’r ffermwr ar ein hantur casglu wyau – profiad ymarferol lle bydd disgyblion yn cael cyfle i ddysgu am ofal anifeiliaid, cylchoedd tymhorol, a thaith y bwyd o’r cwt ieir i’r gegin.
Dyniaethau – tarddiad bwyd