Priodasau
Fferm Gymunedol Greenmeadow yw'r lleoliad perffaith ar gyfer eich priodas fach berffaith. Y Tŷ Gwair a’i drawstiau hyfryd yw’r lle delfrydol i gynnal priodas hyfryd, wledig yng nghanol Cwmbrân.
Gyda chyfleusterau gwych o ran arlwyo a diodydd o fwyty Bwrdd y Ffermwr, mae gan y fferm yr holl gynhwysion i gynnig y lleoliad perffaith ar eich diwrnod arbennig.

Ystafelloedd cyfarfod
Gellir archebu ystafelloedd cyfarfod newydd o wahanol siapiau a meintiau ar gyfer pob math o gyfarfod, o bwyllgorau a chlybiau i gyfarfodydd bwrdd a chyfarfodydd oddi ar y safle.
Mae lluniaeth ar gael i'w harchebu trwy fwyty Bwrdd y Ffermwr, a gallwn ddarparu cyflenwadau ychwanegol ar gais.

Partïon plant
Anifeiliaid, chwarae antur, byrbrydau blasus - beth mwy allech chi ofyn amdanynt ar gyfer partïon i blant!
Mae partïon o bob math a maint i blant ar Fferm Gymunedol Greenmeadow a’r cyfan yn gweddu i’ch anghenion, eich cyllideb ac oedran y plant.

