Mae llu o weithgareddau yn digwydd ar y fferm bob dydd. Cymerwch olwg ar yr amserlen gweithgareddau isod, i weld beth sy'n digwydd, a darganfod fwy am weithgareddau sydd am ddim neu y codir tâl amdanynt yma yn Greenmeadow.
Cornel Cwtshys
Sbonciwch i mewn i’n Cornel Cwtshys a chael cwtsh bach hyfryd gyda rhai o anifeiliaid lleiaf a mwyaf fflwfflyd y fferm.
O gwningod, crwbanod a moch gini trwy gydol y flwyddyn, i gywion a hwyaid yn y gwanwyn, dyma brofiad tawel, ymarferol lle gall plant ddysgu sut i drin anifeiliaid yn dyner a gofalu amdanynt.
Pryd
Sesiynau galw heibio ar gael – mae’r amserau ar y bwrdd yn yr Ysgubor Chwarae
Cost
Wedi'i gynnwys yn y pris mynediad

Gwylio’r Godro
Ymunwch â thîm y fferm a Lottie y fuwch Friesian Brydeinig, i wylio’r godro’n fyw yn y Llaethdy.
Dysgwch sut rydyn ni’n gofalu am ein gwartheg godro, sut mae godro’n gweithio a pham ei fod yn rhan mor bwysig o fywyd fferm. Byddwn yn rhannu sut mae llaeth yn mynd o’r pwrs i’r poteli, a sut i gadw gwartheg yn iach.
Pryd
Sesiynau galw heibio ar gael – mae’r amserau ar y bwrdd yn yr Ysgubor Chwarae
Cost
Wedi'i gynnwys yn y pris mynediad

Reid ar y tractor a’r trelar o amgylch y fferm
Amdani! Am antur gefn gwlad glasurol! Nid yw unrhyw daith i'r fferm yn gyflawn heb daith ar ein tractor mawr a'n trelar. Ewch ar daith 15 munud o amgylch y fferm, chwifiwch ar yr anifeiliaid a gweld y caeau o uchder! Dyma ffordd ddifyr a hamddenol i weld y fferm. Addas i bob oedran.
Pryd
Mae reidiau'n rhedeg yn rheolaidd – Sesiynau galw heibio ar gael – mae’r amserau ar y bwrdd yn yr Ysgubor Chwarae
Cost
£2.00 y pen

Amser bwydo’r anifeiliaid
Mae'n amser te! Helpwch ni i fwydo'r anifeiliaid ar y fferm! Ymunwch â thîm y fferm wrth i ni wneud ein ffordd o amgylch caeau’r anifeiliaid ar gyfer amser bwydo prynhawn. O eifr a moch i ieir ac asynnod, fe gewch gyfle i’w bwydo; eu hoff fwyd wrth gwrs, a dysgu beth sy'n eu cadw'n hapus ac yn iach.
Pryd
Sesiynau galw heibio ar gael – mae’r amserau ar y bwrdd yn yr Ysgubor Chwarae
Cost
Wedi'i gynnwys yn y pris mynediad

Cwrdd â’r anifeiliaid
Cyfle i ddod wyneb yn wyneb â’n geifr bach nwyfus, ein defaid addfwyn a’u hŵyn hoffus yn y gwanwyn. Dysgwch sut rydyn ni'n gofalu amdanyn nhw, beth maen nhw'n ei fwyta, a beth sy'n gwneud pob un yn arbennig.
Pryd
Sesiynau galw heibio ar gael – mae’r amserau ar y bwrdd yn yr Ysgubor Chwarae
Cost
Wedi'i gynnwys yn y pris mynediad

