Skip to main content

Rhowch eich ‘sgidiau glaw ymlaen a chamu i mewn i brofiad ‘Ffermwr am y Dydd’!. Mae'n weithgaredd ymarferol sy’n rhoi cyfle unigryw i ymwelwyr ifanc sy’n dod i Fferm Gymunedol Greenmeadow, deimlo fel ffermwr go iawn, dysgu sgiliau newydd, cwrdd â'n hanifeiliaid wyneb yn wyneb, a chymryd rhan yn y tasgau dyddiol ar y fferm.

Mae ‘Ffermwr am y dydd’ yn brofiad 2.5 awr, o £25 y pen.

Dros gyfnod o 2.5 awr, bydd ein ffermwyr ifanc yn ymuno â'n tîm i wneud amrywiaeth o dasgau difyr, rhyngweithiol, go iawn. Yn dibynnu ar y tymor, mae’r gweithgareddau'n cynnwys:

  • Bwydo a gofalu am ein hanifeiliaid
  • Casglu wyau a dysgu am ieir
  • Cwrdd â’r anifeiliaid wyneb yn wyneb a’u twtio
  • Helpu gyda thasgau dyddiol ar y fferm, fel carthu neu baratoi bwyd i’r anifeiliaid
  • Dysgu sut rydyn ni'n gofalu am y tir, yr anifeiliaid, a’r fferm yn gyffredinol
  • Mynediad unigryw i fannau y tu ôl i'r llenni
Ladies hand holding a chick

Oedran

“Ffermwr Bach am y Dydd", 4-8 oed: Rhaid bod yng nghwmni un oedolyn sy’n goruchwylio

  • 10am - 12.30pm
  • Lleoedd: 8 o blant

“Ffermwr Ifanc am y Dydd” 9–12 oed: Nid oes angen goruchwyliaeth

  • 1.30pm - 4pm : 8 o blant

Bydd tîm y fferm, sy’n gyfeillgar a phrofiadol, yn cefnogi pawb sy’n cymryd rhan drwy'r amser, gan sicrhau bod y sesiwn yn ddiogel, yn addysgiadol ac yn llawn eiliadau cofiadwy.

Perffaith i’r rheini sy’n caru anifeiliaid, egin ffermwyr ifanc, a phlant sydd wrth eu bodd yn cymryd rhan a rhoi cynnig ar rywbeth newydd!

A lamb being bottle fed