Skip to main content

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn berchen ar ac yn rhedeg Fferm Gymunedol Greenmeadow ac yn ymrwymedig at ddiogelu eich preifatrwydd pan fyddwch yn defnyddio'n gwasanaethau. Bwriad yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn yw rhoi gwybodaeth i chi am y data rydym yn ei gadw amdanoch, sut rydym yn ei ddefnyddio, eich hawliau mewn perthynas â hynny a’r rhagofalon sy’n bodoli i’w amddiffyn.

Os hoffech chi fynegi pryder ynglŷn â thrin eich data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data gan ddefnyddio’r manylion isod

Data Protection Officer
Ffôn: 01633 647467
E-bost: dpa@torfaen.gov.uk

Diben yr hysbysiad preifatrwydd yma yw rhoi gwybod i chi am y data mae Fferm Gymunedol Greenmeadow yn ei gasglu, pam ei fod yn cael ei gasglu a sut mae'n cael ei storio a'i brosesu. Gallwn hefyd ddefnyddio'r wybodaeth a ddarperir i helpu i gynllunio a gwella'n gwasanaethau.

Pwy sy'n rhoi eich data i Fferm Gymunedol Greenmeadow?

Mae'r wybodaeth bersonol yr ydym ni'n ei phrosesu yn cael ei rhoi i ni'n uniongyrchol gennych chi er mwyn cyflenwi'r gwasanaethau yr ydych yn gofyn amdanyn nhw ac i roi gwybod i chi am wasanaethau a gweithgareddau yn y Fferm.

A

Gallwn dderbyn gwybodaeth bersonol yn anuniongyrchol gan unrhyw drydydd parti sy'n bwcio mynediad i'r Fferm ar eich rhan.

Sut mae Fferm Gymunedol Greenmeadow yn casglu'r wybodaeth yma

  • ffurflenni ar-lein
  • e-bost
  • dros y ffôn
  • gwybodaeth a rennir gyda ni yn ystod ymweliad
  • gwybodaeth a roddir i ni yn ystod gweithgaredd allanol
  • cystadlaethau
  • lluniau
  • fideo
  • TCC/camerâu (defnyddir at ddibenion diogelwch a lles anifeiliaid)

Pa wybodaeth mae Fferm Gymunedol Greenmeadow yn casglu amdanoch chi?

Mae Fferm Gymunedol Greenmeadow yn casglu gwybodaeth sy’n briodol ar gyfer defnydd y gwasanaeth. Gall hyn gynnwys:

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Oedran
  • Cyfeiriad e-bost
  • Rhif ffôn
  • Manylion meddygol
  • Manylion cyswllt mewn argyfwng
  • Lluniau llonydd
  • Lluniau fideo
  • Unrhyw wybodaeth arall sy'n berthnasol i'r gwasanaeth a ddarperir

Pam fod Fferm Gymunedol Greenmeadow yn prosesu eich data personol?

O dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR), y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni ar gyfer prosesu’r wybodaeth hon yw:

  • Eich caniatâd. Mae hyn yn ofynnol am unrhyw farchnata uniongyrchol ac os ydych chi'n ymddangos mewn lluniau neu fideo a ddefnyddir at ddibenion hyrwyddo. Mae caniatâd yn ymwneud yn unig a'r diben penodol y rhoddwyd ef amdano a gallwch dynnu'n caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg. Nid ydym yn dibynnu ar ganiatâd fel sail gyfreithiol ar gyfer unrhyw brosesu arall.
  • Rydyn ni ei angen i gyflawni tasg gyhoeddus
  • Mae gennym fudd cyfreithiol

Categorïau arbennig o ddata personol

Rydym yn casglu'r data categori arbennig canlynol os yw'n berthnasol i'r gwasanaeth yr ydych yn ei ddefnyddio;

  • Data personol sy'n datgelu credoau crefyddol neu athronyddol (mae hyn fel arfer mewn perthynas â gofynion arlwyo)
  • data mewn perthynas ag iechyd
  • data mewn perthynas â thueddiad rhywiol (perthnasol i wasanaethau priodasol)

Defnyddir camerâu TCC ar y safle i helpu i sicrhau diogelwch ymwelwyr. Gall lluniau a gesglir gynnwys y canlynol:

  • data personol sy'n datgelu tarddiad hiliol neu ethnig
  • data personol sy'n datgelu barn wleidyddol
  • data personol sy'n datgelu credoau crefyddol neu athronyddol
  • data mewn perthynas ag iechyd
  • data mewn perthynas â thueddiad rhywiol unigolyn

Rydym yn casglu hyn o dan Erthygl 9 GDPR y DU.

Nid ydym yn gofyn i chi roi unrhyw ddata troseddol yn uniongyrchol, serch hynny, efallai bydd i'w weld mewn lluniau TCC. Rydym yn casglu hyn o dan Erthygl 10 GDPR y DU.

Pwy sydd yn cael defnyddio’ch data?

Bydd eich data’n cael ei rannu yn fewnol dim ond gyda’r staff priodol lle mae'n angenrheidiol er mwyn iddyn nhw ymgymryd â’u rolau.

Gall eich data gael ei rannu'n allanol hefyd gyda sefydliadau at ddibenion diogelwch. Gallai’r rhain gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • SRS sy'n monitro peth o'n lluniau TCC. Gallwch weld eu hysbysiad preifatrwydd trwy'r ddolen hon Hysbysiad Preifatrwydd TCC SRS neu drwy wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.

Pan fyddwn yn ymgysylltu a chi trwy'r cyfryngau cymdeithasol, bydd gan y llwyfannau cyfryngol yma eu hysbysiadau preifatrwydd eu hunain y dylech gyfarwyddo â nhw.

Gall ystadegau dienw gael eu trosglwyddo i gydymffurfio â gofynion cyllido. Gallai’r rhain gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • Arianwyr
  • Awdurdodau Lleol Eraill
  • Llywodraeth Cymru

Ac eithrio lle nodwyd eisoes, nid ydym yn rhoi eich manylion i drydydd partïon oni fo gofyn i ni wneud hynny dan y gyfraith.

Ydy’r Data’n cael ei drosglwyddo i’r tu allan i’r DU?

Nac Ydy

Sut mae Fferm Gymunedol Greenmeadow'n cadw'ch data'n ddiogel?

Mae gan y Cyngor bolisïau mewnol mewn grym i sicrhau nad yw’r data y mae’n ei brosesu yn mynd ar goll, yn cael ei ddinistrio’n anfwriadol, yn cael ei gamddefnyddio neu ei ddatgelu. Cyfyngir mynediad at y data yma yn unol â pholisïau mewnol yn Cyngor ac mewn cydymffurfiad â RhDDC y DU. Bydd data’n cael ei storio’n ddiogel mewn:

  • gyriant diogel ar y rhwydwaith
  • cronfa ddata TG diogel
  • systemau ffeiliau papur diogel

Pan fydd y Cyngor yn cyflogi trydydd partïon i brosesu data personol ar ei ran, maen nhw’n gwneud hynny ar sail cyfarwyddiadau ysgrifenedig. Mae gan y trydydd partïon yma ddyletswydd cyfrinachedd hefyd ac mae’n rhaid iddyn nhw weithredu mesurau priodol i sicrhau diogelwch data.

Am ba mor hir mae Fferm Gymunedol Greenmeadow'n cadw'ch data?

Bydd y Cyngor yn cadw eich data personol am gyhyd ag sydd yn angenrheidiol a hynny'n unig, a bydd yn dilyn safonau corfforaethol a'r Awdurdod Lleol yn y maes hwn. Ar ddiwedd y cyfnod cadw bydd y Cyngor yn dinistrio neu'n gwaredu'r data yn ddiogel yn unol ag amserlenni cadw.

Mae lluniau TCC sy'n cael ei recordio ar y safle yn cael ei storio am hyd at 5 wythnos cyn cael ei ddileu'n awtomatig. Os oes angen cadw lluniau yn hirach na hyn byddant yn cael eu trosglwyddo at fformat storio gwahanol a'u trin yn unol â gweithdrefnau storio a chadw data'r Cyngor.

A ydym ni’n gwneud penderfyniadau awtomataidd/yn proffilio gyda’ch data?

Na

Eich hawliau

Mae gennych nifer o hawliau y gallwch eu harfer:

  • Mynediad - cael copi o’ch data ar gais
  • Cywiriad - mynnu bod y Cyngor yn newid data anghywir neu anghyflawn
  • Gwrthwynebu, Cyfyngu neu Ddileu - mewn rhai amgylchiadau penodol gallwch ofyn i’r Cyngor ddileu neu beidio â phrosesu eich data, er enghraifft os nad yw’r data bellach yn angenrheidiol at ddibenion prosesu
  • Hygludedd data – cael derbyn a/neu drosglwyddo data a roddwyd i’r Cyngor i sefydliadau eraill (mae hyn yn berthnasol mewn amgylchiadau cyfyngedig)
  • Tynnu’ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg (ble rhoddwyd caniatâd)
  • Gwybod canlyniadau eich bod yn methu â darparu data i’r Cyngor
  • Gwybod am fodolaeth unrhyw benderfyniadau awtomataidd, gan gynnwys proffilio a goblygiadau hyn i chi
  • Hawl i gyflwyno cwyn i awdurdod goruchwylio (Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth)

Os hoffech chi arfer unrhyw un o'r hawliau, cysylltwch os gwelwch yn dda â Fferm Gymunedol Greenmeadow

Gellir cysylltu â'r Comisiynydd Gwybodaeth yn: Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (Cymru), 2il Lawr, Tŷ Churchill, Ffordd Churchill, Caerdydd, CF10 2HH. Ffôn 0330 414 6421 neu e-bost Wales@ico.org.uk