Ar ôl i chi brynu eich cerdyn aelodaeth, bydd angen i chi ei gofrestru ar y porth aelodaeth. Sylwch fod rhaid cofrestru pob aelodaeth gyda’i gyfeiriad e-bost unigryw ei hun.
Ar ôl cofrestru, gallwch fynd ati i drefnu eich ymweliadau trwy'r un porth. Mae pob aelodaeth yn caniatáu ichi archebu dau docyn am ddim fesul ymweliad (un oedolyn, un plentyn). Os hoffech ddod ag aelodau ychwanegol o'r teulu, gallwch brynu eu tocynnau am y pris mynediad arferol ar yr un pryd.
Mae’r aelodaeth yn parhau am 12 mis o'r dyddiad yr ydych yn ei brynu. Byddwch yn derbyn nodyn atgoffa pan fydd hi'n bryd adnewyddu.
Fel cynnig untro, bydd unrhyw aelodaeth a brynir cyn i ni ailagor ar 13 Medi 2025 yn newid i 12 mis llawn, a daw i ben ar 13 Medi 2026. Mae'r trefniant hwn yn berthnasol i’r flwyddyn hon yn unig.
Mae aelodaeth wedi’i chysylltu â'r oedolyn, nid y plentyn. Mae hyn yn golygu y gall rhiant sydd ag aelodaeth ddod ag unrhyw blentyn 3–12 oed gydag ef/hi ar bob ymweliad. Nid oes raid i’r plentyn fod yr un plentyn bob tro.
Oes – mae croeso i oedolion sydd ag aelodaeth ymweld â'r fferm ar eu pennau eu hunain.
Oes – mae mynediad am ddim i blant 0–2 oed. Fodd bynnag, rhaid i chi dal fynd ati i’w cynnwys yn eich archeb. Gallwch ychwanegu tocyn 0–2 wrth archebu eich ymweliad drwy'r porth.
Mae aelodaeth leol ar gael i unrhyw un sy'n byw yn yr ardaloedd sydd â’r cod post canlynol: NP4, NP44, NP11 a NP18. Wrth wneud cais, bydd angen i chi lan lwytho prawf o’ch cyfeiriad (fel bil cyfleustodau, datganiad treth gyngor, neu gyfriflen banc) yn dangos eich enw a’ch cyfeiriad.
Fel fferm gymunedol, rydym yn cynnig pris gostyngol i drigolion lleol i gydnabod eu cefnogaeth uniongyrchol drwy’r cyngor a’r gymuned. Mae’r pris aelodaeth safonol i bobl nad ydynt yn lleol, dal i fod yn werth da am arian ac mae’n helpu i gefnogi’r gofal parhaus am yr anifeiliaid, y fferm, a digwyddiadau yn y dyfodol.
Mae pob aelodaeth yn cynnwys un oedolyn ac un plentyn 3–12 oed. Gallwch brynu aelodaeth ychwanegol i deuluoedd mwy, neu brynu tocynnau dydd ychwanegol ar gyfer unrhyw blant neu oedolion ychwanegol.
Gellir defnyddio unrhyw fil neu ddogfen sy’n dangos cyfeiriad, fel prawf o’ch cyfeiriad. Rhaid i’r dogfennau hyn gael eu cymeradwyo cyn y gallwch fynd ar y porth. A fyddech cystal â chaniatáu hyd at 48 awr i gael eich cymeradwyo (hirach yn ystod cyfnodau prysur neu wyliau banc). Byddwch yn derbyn e-bost cyn gynted ag y bydd eich aelodaeth wedi'i chymeradwyo.
Os yw eich prawf o gyfeiriad yn cael ei wrthod, byddwch yn derbyn e-bost yn egluro hyn a gallwch gyflwyno mwy o dystiolaeth i’w adolygu gan y tîm.
Gallwch ddiweddaru eich manylion drwy'r porth aelodaeth unwaith y bydd eich cyfrif wedi ei gymeradwyo. Os oes gennych unrhyw broblemau, cysylltwch â ni drwy greenmeadowcommunityfarm@torfaen.gov.uk a gall ein tîm helpu.
Ydyn. Mae ymwelwyr anabl yn talu ein tâl mynediad safonol ac mae hyn yn cynnwys gofalwr/gofalwyr gyda nhw am ddim. Mae ein staff wedi eu hyfforddi i beidio byth â chymryd yn ganiataol fod yna anabledd, felly mae angen prawf o anabledd er mwyn cael lle am ddim i ofalwr/ofalwyr. Gall hyn fod yn unrhyw un o’r dogfennau canlynol;
- Lwfans Byw Anabledd (DLA)
- Taliad Annibyniaeth Bersonol (PIP)
- Bathodyn Glas (angen ID â llun)
- Llythyr wedi’i lofnodi gan Feddyg Teulu (angen ID â llun)
- Cerdyn Mynediad
Dylai dyddiad y ddogfen fod o fewn y 24 mis diwethaf.
