Sioe Greenmeadow 2026
Gallwch gofrestru nawr ar gyfer Sioe Greenmeadow!
Ymunwch â ni wrth i ni ddathlu blwyddyn ers i Fferm Gymunedol Greenmeadow ailagor wedi i’r safle gael ei ailddatblygu.
Mae Sioe Greenmeadow yn gyfle gwych i ni ddod at ein gilydd fel cymuned, arddangos ein creadigrwydd, a dathlu popeth sy'n gwneud Greenmeadow yn arbennig, ddydd Sul 13 Medi.
Eleni, bydd aelodau o dîm Fferm Gymunedol Greenmeadow yn edrych dros y cystadlu.
Gan fod hwn yn ddigwyddiad cynhwysol , sy'n gyfeillgar i deuluoedd, mae'r ffocws ar gymryd rhan, mwynhau ac arddangos talentau pawb, yn hytrach na chystadlu ffurfiol.
Efallai eich bod chi’n cystadlu am y tro cyntaf neu'n hen law ar arddangos. Beth bynnag fo’ch sefyllfa, byddem wrth ein bodd i’ch gweld chi’n cymryd rhan ac yn ymuno yn y dathliadau!
Sut i gystadlu
- Lawrlwythwch Raglen Sioe Greenmeadow(opens in new tab) i gael manylion llawn y dosbarthiadau a gwybodaeth am y sioe
- Llenwch y ffurflen gais(opens in new tab)
- Cyflwynwch eich cais erbyn 5:00pm ddydd Mercher 2 Medi
