Skip to main content
A group of smiling children stands beside a yellow tractor, enjoying a sunny day on the farm

Mae Fferm Gymunedol Greenmeadow wedi bod yn rhan bwysig o gymuned Cwmbrân ers cenedlaethau.

Dros y blynyddoedd mae Greenmeadow wedi dod â theuluoedd at ei gilydd i fwynhau diwrnodau allan ym myd natur, gan rannu pwysigrwydd ffermio a chynhyrchu bwyd, a chynnig lle gwych i chwarae, i’r gymuned ddod ynghyd ac i ddysgu.

Cyn hir, bydd ein gwaith gweddnewid wedi gorffen, a bydd Greenmeadow yn parhau i chwarae rhan bwysig.

Bydd mwy eto o fannau i chwarae ac archwilio, cyfleoedd i gwtsho a bwydo anifeiliaid y fferm a dod i’w hadnabod, a lle hardd ar gyfer digwyddiadau lleol, partïon pen-blwydd, priodasau ac achlysuron cymunedol.

Ein gwerthoedd

Hwyl ac Antur

Rydym am greu gweithgareddau a phrofiadau difyr ac anturus i bawb sy’n ymweld, er mwyn sicrhau eu bod yn creu atgofion da.

Croesawgar a Dibynadwy

Rydym am gynnig croeso twymgalon i bawb sy'n ymweld â ni, a chynnig gwasanaeth a phrofiadau rhagorol.

Gofalgar ac Anogol

Byddwn bob amser yn gofalu am ein hymwelwyr, ein cydweithwyr, yr anifeiliaid yr ydym yn gofalu amdanynt a'r amgylchedd naturiol, a hynny hyd eithaf ein gallu. Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod pawb a phopeth ar y fferm yn cael ei werthfawrogi a'i garu

Cadarnhaol a Balch

Rydym am i'r gymuned deimlo'n falch bod Fferm Gymunedol Greenmeadow yn eu tref

Cadarn ac Addysgol

Rydym am i Greenmeadow adrodd straeon am y meddylfryd diweddaraf yn y byd ffermio, gan esbonio rhai o'r dewisiadau y mae’n rhaid i ffermwyr eu hwynebu bob dydd. Byddwn yn cynnig amgylchedd gofalgar a chadarnhaol i'r holl anifeiliaid sydd yn ein gofal, a hynny mewn cytgord â'r tir.

Cydweithredol a Chynhwysol

Rydym eisiau gweithio'n agos gyda'r gymuned leol i sicrhau ein bod yn cynnig yr hyn y mae'r gymuned ei eisiau a'i angen. Yma yn Greenmeadow, rydym am i bawb deimlo croeso.