Skip to main content

Beth am gael blas ar hud y Nadolig ar Fferm Gymunedol Greenmeadow!

Yn ystod tymor y Nadolig, mae Fferm Gymunedol Greenmeadow yn trawsnewid yn gyffro hud a lledrith disglair, lle mae golygfeydd, synau ac arogleuon y Nadolig yn llenwi'r awyr. Dechreuwch eich taith yn ein groto hudolus, a chael eich tywys gan ein coblynnod bach siriol a fydd yn eich helpu i greu eich bwyd carw arbennig i’w ysgeintio ar Noswyl Nadolig. Yna, camwch i mewn i guddfan glyd Siôn Corn am gyfle i gwrdd â’r dyn ei hun - bydd pob plentyn yn cael anrheg hyfryd i’w gadw.

Ond nid dyna ddiwedd ar yr holl hud! Ar hyd a lled y fferm, bydd cyfle i ddarganfod gweithgareddau Nadoligaidd, adloniant llawen, a syrpreisys tymhorol o gwmpas pob cornel. O oleuadau’n disgleirio a choed Nadolig, i ddanteithion cynnes ym mwyty Bwrdd y Ffermwr, Fferm Gymunedol Greenmeadow yw’r lle perffaith i greu atgofion bythgofiadwy gyda’r teulu, dros yr ŵyl.

Mae eich tocyn yn cynnwys mynediad am ddim i'r fferm, a mynediad i Groto Siôn Corn. Sylwer: Caniateir hyd at ddau oedolyn yn unig fesul plentyn yn y groto

Groto Siôn Corn yn Fferm Gymunedol Greenmeadow!

Rhwng yr 2ail a’r 24ain o Ragfyr, camwch i mewn i'n groto Nadoligaidd, hudolus a chreu atgofion bythgofiadwy gyda Siôn Corn a'i goblynnod!

Mae eich profiad yn y Groto yn cynnwys:

  • Ymweliad â Siôn Corn yn ei guddfan glyd
  • Creu eich bwyd ceirw eich hun gyda'n coblynnod bach siriol
  • Anrheg arbennig i bob plentyn

Tocynnau

  • Plentyn: £25.00
  • Oedolyn: £15.50
  • Tocyn Gofalwr: Am ddim (Gweler y manylion yn ein Cwestiynau Cyffredin)

Sylwer: Mae tocynnau mynediad safonol i’r fferm ar gael o hyd os byddai'n well gennych grwydro’r fferm a mwynhau'r awyrgylch Nadoligaidd heb ymweld â Siôn Corn.