Skip to main content

Mae'r gwaith trawsnewid yn sicrhau bod y gymuned a ffermio wrth galon Fferm Gymunedol Greenmeadow.

Mae'r safle wedi cael ei adnewyddu'n llwyr, gan ddiogelu'r adeiladau, gwella hygyrchedd, a chreu teithiau newydd i ymwelwyr, mannau chwarae newydd a chyfleusterau gwell ar gyfer yr anifeiliaid. Rydyn ni hyd yn oed wedi gosod pwmp gwres o’r ddaear o'r radd flaenaf. Mae'r gwaith yn diogelu'r fferm ar gyfer y genhedlaeth nesaf o ymwelwyr a'r gymuned.

Beth sydd ar y gweill?

Cyfleusterau pob-tywydd

Bydd Fferm Gymunedol Greenmeadow yn ddiwrnod allan gwych, beth bynnag fo'r tywydd. Mae'r sgubor chwarae newydd ar thema fferm yn cynnig digon o le i’r plant chwarae, waeth beth fo’r tywydd.

Caffi a siop roddion

Mae'r caffi ar y safle wedi cael ei ailwampio'n llwyr i greu caffi dan do newydd mewn estyniad ffrâm dderw hyfryd, wrth gefn y ffermdy, â 90 o seddi a seddi allan yn yr awyr agored. Bydd ar agor i'r cyhoedd, heb i chi orfod prynu tocynnau ar gyfer y Fferm, ac felly dyma’r lle perffaith i alw heibio am baned.

Croeso i gŵn

Mae cŵn yn rhan o'r teulu, a does dim disgwyl i chi eu gadael gartref pan fyddwch chi'n treulio'r dydd yn Greenmeadow! Bydd y caffi a'r safle yn croesawu cŵn sy'n ymddwyn yn dda, ar dennyn, gyda rhai eithriadau synhwyrol, fel Y Cwtsh yn Sgubor yr Anifeiliaid.

A bee on a vibrant purple flower

Lle i ddigwyddiadau

Mae’r lle newydd, hardd a hyblyg ar gyfer digwyddiadau, yn y Sgubor Wair, yn berffaith ar gyfer achlysuron cymunedol, hurio’n breifat a phriodasau. Bydd rhaglen wych o ddigwyddiadau Greenmeadow trwy gydol y flwyddyn hefyd.

Hygyrchedd

Rydyn ni’n sicrhau ei bod yn haws i fwy o bobl fwynhau mwy o ardaloedd Fferm Gymunedol Greenmeadow. Mae llwybrau wedi cael eu hailraddio ac yn cael wyneb newydd. Rydyn ni wedi ychwanegu toiledau hygyrch ac wedi ceisio sicrhau bod mwy o'r cyfleusterau ar y safle yn hygyrch i'r rheiny sydd ag anghenion ychwanegol.

Archwilio'r Dirwedd - Chwarae antur yn yr awyr agored

Mae llwybrau a throeon newydd yn cael eu datblygu ym myd natur, er mwyn cynnig mwy o gyfleoedd i ymwelwyr archwilio a chrwydro’r Fferm. Mae yna fannau chwarae awyr agored newydd hefyd i'r plant eu mwynhau.

Cynaliadwyedd

Fferm Gymunedol Greenmeadow yw un o'r atyniadau cyntaf i ymwelwyr yng Nghymru i gael pwmp gwres o’r ddaear. Diolch i’r arloesi hwn, bydd y rhan fwyaf o ynni'r safle yn cael ei gyflenwi trwy'r pwmp, gan wella cynaliadwyedd y safle yn sylweddol.