Skip to main content
Black rabbit

Mae’n wanwyn yn y fferm a does dim gwell amser i ddod â chwrdd â’n newydd-ddyfodiaid i gyd! Dros y Pasg, gallwch fwynhau ein gweithgareddau arferol i gyd, closio at y cywion, yr ŵyn a’r moch bach ac amrywiaeth o weithgareddau arbennig i ddathlu’r gwanwyn a gwyliau’r Pasg.

Mwynhewch ddiwrnod yn Fferm Greenmeadow y Pasg yma a gwnewch y mwyaf o’n digwyddiadau arbennig yn ogystal â mannau chwarae dan do ac awyr agored, y Cornel Cwtsh, yr Ysgubor Anifeiliaid, llwybrau trwy diroedd yr anifeiliaid a bwyd gwych ym mwyty Bwrdd y Ffermwr.

Gweithgareddau pob dydd

Half term activities
Amser Gweithgaredd
10.30am - 1.00pm Cornel cwtsh yn yr Ysgubor Wair
11.30am Arddangosfa godro *
12 noon Taith tractor  **
1.30pm Sesiwn Gweithgaredd
2.00pm Taith tractor  **
3.00 - 4.00pm Cornel cwtsh yn yr Ysgubor Wair
4.00pm  Taith tractor  **
4:30pm Amser te’r anifeiliaid yn Nhŷ’r Anifeiliaid

  

* Gweithgaredd amgen pan fo Lottie’n gorffwys

 

** £2 y person. Gallwch archebu ymlaen llaw ar-lein neu yn yr Ysgubor Wair wrth i chi gyrraedd

 

Gall amserau gweithgareddau amrywio. Gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych ar y bwrdd du wrth i chi gyrraedd.

Gweithgareddau’r Pasg

Entertainment  schedule
Dyddiad Gweithgaredd

28ain Mawrth - 12fed Ebrill

Helfa Drysor

 

Hwyl helfa i’r teulu o gwmpas y fferm gyda chliwiau, dirgelion a llawer i’w ddarganfod!

 

10am - 4pm - £1 y pen

28ain Mawrth - 12fed Ebrill

 

Canhwyllo a Thrin

 

Gwyliwch gyw yn datblygu yn yr ŵy a dewch i gwrdd â’r cywion bach newydd.

 

Trwy gydol y dydd - £1 y pen

 

4 Ebrill

Mwynhewch Arddangosfa Hebogyddiaeth dan do yn y Llaethdy, gydag adar ysglyfaethus hardd ac arddangosfeydd diddorol trwy gydol y dydd.

 

12:30pm, 2pm & 3:30pm - £1 y pen

11 Ebrill

Mwynhewch Arddangosfa Hebogyddiaeth dan do yn y Llaethdy, gydag adar ysglyfaethus hardd ac arddangosfeydd diddorol trwy gydol y dydd.

 

12:30pm, 2pm & 3:30pm - £1 y pen