Skip to main content

Ffwr meddal, dwylo bach tyner, a llawer o gwtshys!

Sbonciwch draw i’n Cornel Cwtshys i gwrdd â rhai o’r anifeiliaid lleiaf a mwyaf blewog ar y fferm.

O gwningod a moch cwta drwy gydol y flwyddyn i gywion a hwyaid bach yn y gwanwyn, dyma brofiad ymarferol a digyffro ble gall blant ddysgu sut i drafod anifeiliaid yn dyner a gofalu amdanynt.

Beth i’w ddisgwyl

Cwrdd â'r anifeiliaid: Cwningod, moch cwta, a ffrindiau bach eraill

Gafael yn dyner: Dysgu sut i ddal anifeiliaid yn ddiogel a’u hanwesu

Cyngor ar ofalu am anifeiliaid: Dysgwch beth mae'r anifeiliaid hyn yn ei fwyta, sut maen nhw'n byw, a sut rydyn ni'n eu cadw'n iach

Amser tawel: Lle tawel, dan oruchwyliaeth sy'n berffaith ar gyfer ymwelwyr iau neu'r rhai sy'n well ganddynt awyrgylch arafach

Ble

Cornel Cwtshys (yn y Llaethdy)

Pryd

Sesiynau galw heibio ar gael – gweler yr amserau ar fwrdd yr Ysgubor Chwarae

Cost

Wedi'i gynnwys gyda’r pris mynediad

Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn bob amser.