Skip to main content

Cyfle i weld o ble y daw llaeth!

Ymunwch â thîm y fferm a Lottie, buwch Friesian, i’w gwylio hi’n cael ei godro.

Dysgwch sut rydym yn gofalu am ein gwartheg godro, sut mae godro yn gweithio, a pham ei fod yn rhan mor bwysig o fywyd fferm.

Beth i’w ddisgwyl

Cyfle i wylio un o’n gwartheg godro yn cael ei godro’n fyw

Dysgwch am ddiet y fuwch, y drefn bob dydd, a sut rydym yn eu cadw'n iach

Dysgwch sut mae llaeth yn mynd o'r fuwch i'r botel

Holwch gwestiynau a rhowch gynnig arni (os yw’n briodol a dan oruchwyliaeth)

Ble

Y Llaethdy

Pryd

Sesiynau galw heibio ar gael – gweler yr amserau ar fwrdd yr Ysgubor Chwarae

Cost

Wedi'i gynnwys gyda’r pris mynediad

Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn bob amser