Skip to main content

Rydym yn cynnig amrywiaeth o becynnau parti pen-blwydd sy’n cynnig diwrnod difyr, bythgofiadwy i blant, a digon o le i ddathlu. Mae pob parti yn cynnwys Cinio Poeth neu Oer, cyfle unigryw i ddefnyddio’r ystafell barti am 2 awr a mynediad trwy'r dydd i'r fferm.

Pecyn Efydd

£12.50 y plentyn

  • Mynediad i'r fferm
  • Cinio poeth neu oer
  • Yr ystafell barti
Young girl enjoying the slide in the indoor adventure play at Greenmeadow Community Farm

Pecyn arian

£15.00 y plentyn

  • Mynediad i'r fferm
  • Cinio poeth neu oer
  • Yr ystafell barti
  • Reid ar y tractor a chyfle i fwydo’r anifeiliaid
Young boy sitting on a wooden tractor in the indoor adventure play

Pecyn aur

£20.00 y plentyn

  • Mynediad i'r fferm
  • Cinio poeth neu oer
  • Yr ystafell barti
  • Reid ar y tractor a chyfle i fwydo’r anifeiliaid
  • Cyfle preifat i ddod wyneb yn wyneb â’r anifeiliaid *

* Mae sesiynau wyneb yn wyneb â’r anifeiliaid yn dibynnu ar argaeledd, lles anifeiliaid, a rhaid eu cadarnhau ymlaen llaw.

Young girl with a tortoise in the cuddle corner

Telerau ac Amodau

Niferoedd a Lleoedd

  • Isafswm nifer y plant: 10
  • Uchafswm nifer y plant: 20
  • Uchafswm y lleoedd yn yr ystafell barti:
    • Hyd at 20 plentyn
    • Uchafswm o 4 oedolyn yn yr ystafell parti ar unrhyw un adeg.

Mynediad i Oedolion

  • Mae 1 oedolyn fesul 5 plentyn yn mynd i mewn am ddim
  • Codir y tâl mynediad safonol ar gyfer oedolion ychwanegol:
    • Dyddiau'r wythnos: £10.50 fesul oedolyn
    • Penwythnosau: £11.00 fesul oedolyn
    • Mae’r tâl mynediad i oedolion yn cynnwys mynediad trwy'r dydd i'r fferm
    • Mae’r tâl mynediad i oedolion yn daladwy ar y dydd

Bwyd a Diod

  • Mae cinio poeth neu oer i blant wedi'i gynnwys ym mhob pecyn
  • Mae diodydd (sudd) wedi'u cynnwys
  • Mae croeso i chi ddod â chacen pen-blwydd
  • Gwybodaeth bwysig am fwyd
    • Rhaid rhannu unrhyw wybodaeth am alergeddau bwyd neu ofynion dietegol o leiaf 7 diwrnod cyn y parti
    • Os ydych chi'n dod â chacen pen-blwydd neu fwydydd eraill, rhaid rhannu’r rhestr gynhwysion lawn 7 diwrnod ymlaen llaw
    • Am resymau diogelwch, rydym yn cadw'r hawl i wrthod bwyd o du allan os na ddarperir gwybodaeth ddigonol am alergenau

Addurniadau

  • Mae croeso i chi ddod ag addurniadau a balŵns i'r ystafell barti
  • Cwsmeriaid sy’n gyfrifol am ddarparu’r holl addurniadau, a’u tynnu i lawr
  • Rhaid i’r ystafell barti fod yr un mor daclus ag oedd hi cyn dechrau’r parti
  • Gellir codi tâl am lanhau ychwanegol neu ddifrod

Goruchwyliaeth a Diogelwch

  • Rhiant neu warcheidwad sy’n gyfrifol am blant bob amser
  • Bydd ein tîm yn cefnogi’r profiad parti, ond nid y goruchwylio

Gweithgareddau Anifeiliaid (Arian ac Aur)

  • Gellir addasu neu ganslo reidiau tractor a sesiynau wyneb yn wyneb â’r anifeiliaid oherwydd:
    • Y tywydd
    • Anghenion lles yr anifeiliaid
    • Iechyd a diogelwch
  • Pan fydd hyn yn digwydd, byddwn bob amser yn anelu i gynnig profiad addas yn ei le

Talu a Thelerau Archebu

  • Mae angen talu’n llawn o leiaf 7 diwrnod cyn dyddiad y parti
  • Ni chadarnheir y trefniadau nes bod y taliad llawn wedi'i dderbyn
  • Rhaid cadarnhau sesiynau wyneb yn wyneb â’r anifeiliaid (pecyn aur) ymlaen llaw ac maent yn dibynnu ar argaeledd

Polisi Canslo

  • 14 diwrnod neu fwy cyn y parti: Ad-daliad llawn
  • 7–13 diwrnod cyn y parti: Ad-daliad o 50%
  • Llai na 7 diwrnod cyn y parti: Dim ad-daliad

Tywydd a Gweithgareddau Awyr Agored

Am ein bod yn fferm weithiol, mae rhai gweithgareddau yn yr awyr agored. Os bydd y tywydd yn arw, efallai y bydd angen addasu, gohirio neu newid rhai elfennau o’r parti am resymau diogelwch. Nid yw hyn yn golygu y gall cwsmeriaid hawlio ad-daliad yn awtomatig, os oes profiad addas yn cael ei gynnig yn lle.

Rydym yn cadw'r hawl i gynnig newid dyddiad neu gredyd mewn amgylchiadau eithriadol, yn ôl disgresiwn y rheolwyr.