Skip to main content
Greenmeadow Farm Impression

Y diweddaraf am y gwaith trawsnewid

Postiwyd ar 13/05/2025

Estyniad Ffrâm Dderw

Un o'r lleoedd newydd sydd ar y gweill yn Greenmeadow yw’r caffi a’r bwyty newydd.

Diolch i estyniad newydd, bendigedig, mae mwy o le o lawer i ymwelwyr gymryd seibiant.

Mae’r estyniad sydd wedi ei greu o ffrâm dderw, yn olau ac yn cynnig digon o le. Bydd y caffi a'r bwyty ar agor i'r cyhoedd yn ogystal ag ymwelwyr i’r fferm – gallwch fynd i’r caffi heb orfod talu i ddod i mewn i’r fferm!

Wrth i’r paratoadau fynd rhagddynt ar le mor arbennig, dyma’r man perffaith i bopeth, o baned, i ginio wedi ei goginio â chynnyrch lleol.

Byddwn yn rhannu manylion y fwydlen cyn bo hir.

Mwy o newyddion