Skip to main content

Does dim eisiau aros eiliad yn rhagor - mae tocynnau ar werth nawr!

Postiwyd ar 21/08/2025

O ddydd Iau 21 Awst, mae tocynnau ar werth ar gyfer y safle ar ei newydd wedd, ac fe fydd y penwythnos agoriadol ddydd Sadwrn 13 Medi.

Yn dilyn y gwaith trawsnewid gwerth miliynau o bunnau, mae'r Fferm yn ailagor gydag atyniadau newydd, sy’n cynnwys Ysgubor Chwarae Dan Do ar gyfer pob tywydd, Lle Chwarae Antur ac Ysgubor yr Anifeiliaid, wedi'u huwchraddio, ac anifeiliaid newydd sy’n cynnwys alpacas. Mae'r ffermdy hefyd wedi cael gwaith adnewyddu helaeth, gan ychwanegu bwyty tŷ haul â 90 sedd o'r enw Bwrdd y Ffermwr.

Gall ymwelwyr gwrdd â'u hoff anifeiliaid fferm yn Ysgubor yr Anifeiliaid, a chael cyfleoedd ychwanegol i fynd yn agos at y moch cwta, y cwningod a’r cywion yn y Gornel Cwtshys.

Bydd pob tocyn yn cynnwys mynediad i'r Ysgubor Chwarae Dan Do, Chwarae Antur Awyr Agored, chwarae coetir awyr agored, Ysgubor yr Anifeiliaid, Cornel Cwtshys, cerdded trwy’r anifeiliaid, arddangosiadau o weithgareddau gan gynnwys Arddangosiadau Godro Tymhorol ac Amser Te’r Anifeiliaid, digon o lwybrau cerdded a hyd yn oed mynediad am ddim i gŵn.

Dyma brisiau’r tocynnau sydd ar gael i'w prynu nawr ar wefan Fferm Gymunedol Greenmeadow:

Prisiau’r tocynnau:

  • Oedolion - £10.50
  • Plant (3-12) - £7
  • Plant dan 3 oed - Am ddim
  • Gofalwyr - Am ddim (un i bob unigolyn)

Mae gan y Fferm brisiau cychwynnol hefyd ar gyfer aelodaeth leol a chyffredinol.

Meddai Jac Griffiths, Rheolwr Fferm Gymunedol Greenmeadow:

"Rydyn ni’n cyfri’r dyddiau nawr! Fe fyddwn ni’n ailagor ymhen ychydig wythnosau a gallwn ni ddim aros i groesawu ymwelwyr yn ôl i'r safle.

"Mae yna fannau newydd gwych i ymwelwyr eu harchwilio a dod i wylio'r Fferm yn tyfu gyda ni."

Meddai’r Cynghorydd Fiona Cross, Aelod Gweithredol dros Gymunedau:

"Mae gan gymaint o bobl atgofion hyfryd iawn am ymweld â Fferm Gymunedol Greenmeadow. Bydd ein buddsoddiad yn y Fferm a'r cyfleusterau newydd gwych yn rhoi'r un cyfleoedd i'r genhedlaeth nesaf o ymwelwyr i greu atgofion amhrisiadwy i’r teulu a dysgu am anifeiliaid, bwyd a ffermio.

"Efallai eich bod chi a’ch teulu eisiau cwrdd â'r anifeiliaid annwyl, gadael i'r plant redeg yn wyllt yn y Glyn neu’r parc antur, neu efallai eich bod chi’n chwilio am rywle newydd i gwrdd â ffrindiau dros goffi neu ginio. Beth bynnag yw’r rheswm, mae yma rywbeth at ddant pawb, ac mae'r tîm yn methu ag aros i groesawu ymwelwyr yn ôl ar 13 Medi!"

Mae croeso i gŵn sy'n ymddwyn yn dda hefyd, ar y safle ac yn y caffi a'r bwyty newydd, Bwrdd y Ffermwr.

Bydd Bwrdd y Ffermwr hefyd ar agor bob dydd rhwng 9.30 a 5pm ar gyfer brecwast, cinio, byrbrydau a choffi, a bydd unrhyw un yn gallu galw i mewn, does dim rhaid cael tocyn. Mae ganddo drwydded lawn hefyd.

Bydd y Tŷ Gwair, sef ysgubor wedi'i hadnewyddu sydd wedi'i thrawsnewid yn lle hyblyg ar gyfer digwyddiadau, ar gael ar gyfer priodasau, digwyddiadau corfforaethol a phartïon, a bydd Bwrdd y Ffermwr yn gallu arlwyo ar eu cyfer.

Er bod llwybrau Greenmeadow yn lle perffaith i gerdded y ci, mae yna rai ardaloedd lle na chaniateir cŵn oherwydd yr anifeiliaid. Mae'r rhain yn cynnwys ardal yr Anifeiliaid Egsotig a’r Ddeorfa, yr Ysgubor Chwarae, y Tŷ Gwair a’r Llofft Wair.

Telerau ac Amodau

Mwy o newyddion