Mae gwirfoddoli yn Greenmeadow yn gyfle gwych i chwarae rhan yn eich cymuned leol a chyfle i’n helpu i ofalu am y fferm, ein hanifeiliaid, a'n hymwelwyr.
P'un a ydych chi'n angerddol am anifeiliaid, wrth eich bodd yn yr awyr agored neu eisiau rhoi help llaw wrth i ni baratoi i Greenmeadow ailagor a thu hwnt, mae gwirfoddoli yn gyfle gwych i chi gymryd rhan yn nhaith y fferm.
Beth fydd ein gwirfoddolwyr yn ei wneud?

Cyn i ni agor y gatiau yn ddiweddarach yr haf hwn, bydd ein gwirfoddolwyr yn ein helpu i baratoi i groesawu ymwelwyr. Bydd angen digon o dacluso i’n helpu i roi sglein i Greenmeadow, yn barod ar gyfer ei hagoriad.
Cyn i ni agor, bydd gwirfoddolwyr yn:
- Cynorthwyo i ofalu am anifeiliaid
- Helpu gyda thasgau garddio a phlannu
- Mynd ati i beintio, tacluso a gwneud paratoadau cyffredinol
- Helpu i greu lle croesawgar, diogel a hyfryd ar gyfer ein cymuned
Ar ôl i ni ailagor, bydd ein gwirfoddolwyr yn chwarae rhan hollbwysig, drwy ein helpu i redeg y fferm o ddydd i ddydd a chynnig profiad heb ei ail i’n hymwelwyr.
Mae gwirfoddolwyr yn ein helpu i ofalu am ein hymwelwyr trwy:
- Gyfarch a thywys ein hymwelwyr
- Cefnogi gyda gweithgareddau a digwyddiadau sy'n addas i deuluoedd
- Siarad ag ymwelwyr am ein hanifeiliaid
- Helpu i reoli’r maes parcio
- Gofalu am yr anifeiliaid
Pam gwirfoddoli gyda Greenmeadow?
Mae gwirfoddoli yn ffordd wych o wneud gwir wahaniaeth yn eich cymuned leol, dod i adnabod pobl newydd a bod yn rhan o dîm.
Gallwch gael profiad ymarferol sy’n cynnwys gofalu am anifeiliaid, profiadau a digwyddiadau i ymwelwyr, a meithrin hyder newydd mewn amgylchedd cefnogol gyda phobl o'r un anian.
P'un a oes gennych ychydig oriau yn unig, neu ychydig ddyddiau'r wythnos i’w rhoi, rydym yn chwilio am wirfoddolwyr newydd i ymuno â ni nawr!
Ar hyn o bryd, rydyn ni’n chwilio am wirfoddolwyr sy’n 16 oed neu’n hŷn. Ond, os ydych chi’n 14 neu’n 15 oed, mae croeso i chi gofrestru eich diddordeb er mwyn i ni gysylltu â chi gyda manylion cyfleoedd gwirfoddoli yn y dyfodol, unwaith fydd y Fferm wedi ailagor.
Barod i gymryd rhan? Cofrestrwch isod.