Skip to main content

Tocynnau ac Aelodaeth

Gallwch brynu tocynnau ar y diwrnod yn Fferm Gymunedol Greenmeadow ond rydym yn argymell archebu ymlaen llaw pryd bynnag y bo modd ar gyfer ymweliadau dydd a deiliaid aelodaeth er mwyn osgoi cael eich siomi. Mae aelodaeth a thalebau rhodd yn opsiwn gwych i ffrindiau a theulu, gweler isod am fanylion pellach.

Tocynnau Dydd

Tocynnau Dydd
Math o docyn Pris
Oedolion O £10.50
Plant (3-12) O £7.00
Plant o dan 3 oed Am ddim
Gofalwyr Am ddim – un i bob person

 

Mae eich tocyn dydd yn cynnwys

  • Ysgubor Chwarae Dan Do
  • Chwarae Antur Awyr Agored
  • Chwarae coedwig awyr agored yn y Pant
  • Cwrdd â’ch hoff anifeiliaid yn yr Ysgubor Anifeiliaid
  • Cerdded ymysg yr anifeiliaid gan gynnwys geifr, ieir a chwningod mawr
  • Amserlen ddyddiol o weithgareddau am ddim, gan gynnwys arddangosfeydd godro tymhorol, Cornel Cwtsh ac amser te anifeiliaid
  • Digon o lwybrau ar gyfer cerdded
  • Mynediad am ddim i gŵn da! 

Aelodaeth Flynyddol – Cynigion Cychwynnol

Aelodaeth Gychwynnol Flynyddol Leol

 

Local Annual Membership
Math o docyn Pris
Oedolyn yn cynnwys un plentyn (3 – 12 oed) £18.50
(Ar gael i’r rheiny sy’n byw yng nghodau post: NP4, NP44, NP11 a NP18)

  

Aelodaeth Gychwynnol Flynyddol Gyffredinol

 

General Annual Membership
Math o docyn Pris
Oedolyn yn cynnwys un plentyn (3 – 12 oed) £26.00

   

Mae aelodaeth flynyddol yn cynnwys

  • Popeth sydd yn y tocyn dydd
  • Dim cyfyngiad ar nifer yr ymweliadau
  • Mynediad cynnar at ddigwyddiadau tymhorol fel y Nadolig
  • Digwyddiadau i aelodau’n unig trwy gydol y flwyddyn

 

Mae aelodaeth yn mynd am 12 mis o ddyddiad prynu. Cynigion Aelodaeth Gychwynnol yw’r prisiau uchod, gall prisiau wedyn gynyddu’n flynyddol. 

Cwestiynau Cyffredin

Rydw i wedi prynu fy nhocyn aelodaeth, sut mae bwcio ymweliad?

Ar ôl i chi brynu eich tocyn aelodaeth, cofrestrwch eich aelodaeth yma ac yna archebwch eich ymweliad yma.

Roeddwn i'n aelod o'r fferm o'r blaen, ydw i'n cael gostyngiad?

Mae'r tocynnau aelodaeth gychwynnol yn cynnwys gostyngiad i aelodau newydd a blaenorol y fferm.

A allaf brynu tocynnau aelodaeth ar wahân i blant neu deuluoedd mwy?

Mae'r tocynnau aelodaeth ar gyfer un oedolyn ac yn cynnwys un plentyn 3 – 12 oed. Bydd angen prynu unrhyw docynnau ychwanegol fel tocynnau ar wahân.

Rydw i wedi cyflwyno fy mhrawf o gyfeiriad ond rwy’n methu â chael mynediad i'r porth aelodaeth?

Gellir defnyddio unrhyw fil neu ddogfen â chyfeiriad fel prawf o gyfeiriad. Rhaid cymeradwyo dogfennau prawf cyn mynediad i'r porth aelodaeth (angen caniatáu hyd at 48 awr). Byddwch yn derbyn cadarnhad unwaith y byddant wedi'u cymeradwyo.

Cŵn

Mae croeso i gŵn sy'n ymddwyn yn dda yn Greenmeadow, mewn gwirionedd dyma'r lle perffaith i fynd â'ch ci am dro.

Gan fod hon yn fferm gydag anifeiliaid, mae yna nifer o leoedd lle nad yw cŵn yn cael mynd, gan gynnwys Anifeiliaid Egsotig a’r Ddeorfa, yr Ysgubor Chwarae, yr Ysgubor Wair a’r Llofft Wair.

Mae croeso i gŵn sy'n ymddwyn yn dda ym mwyty Bwrdd y Ffermwr.